01286 674847 Ebost Adran DdiogelEnglish
Cafodd pob dosbarth fwynhau disgo Dolig. Diolch i Emyr Gibson am gael benthyg ei offer Disgo.
Cawsom bnawn arbennig yng nghwmni Plant Ysgol Pendalar
Blwyddyn 5 a 6 wedi mwynhau'r pantomeim Jac a'r goeden ffa yn Venue Cymru
Genethod blwyddyn 6 yn diddanu trigolion Porthi Dref
Diolch i ferched y gegin am ginio Nadolig ardderchog
Plant Blwyddyn 5 yn rhannu cardiau Nadolig efo'r henoed ym Mhlas Maesincla
Plant yr Adran Iau yn eu cymeriadau yn sioe Olifer Twist
Blwyddyn 1 yn mwynhau trip i Pili Palas
06.12.24 - Casglu arian ar gyfer elusen Dementia UK
Diolch o galon i Erin Creek a Ela Grug Williams a lwyddodd i gasglu £50 ar gyfer elusen Dementia UK drwy greu a gwerthu breichledau yn yr ysgol. Da iawn chi genod.
04.12.24 - Cyngerdd Nadolig pnawn y Cyfnod Sylfaen (Welsh Only)
29.11.24 - Orenau am ddim
Diolch i Morrisons am yr orenau am ddim
29.11.24 - Pêl-rwyd yr Urdd
Llongyfarchiadau i dim pêl-rwyd yr ysgol am gystadlu yng nghystadleuaeth pêl-rwyd yr Urdd yn neuadd Brailsford.
20.11.24 - Ffair Nadolig y Gelli
Codwyd £2613.00 yn y Ffair Nadolig. Diolch i aelodau o'r Gymdeithas am drefnu noson dda ac i bawb a gyfrannodd.
18.11.24 - Plant Mewn Angen
Llwyddwyd i godi £444.50 o arian ar gyfer Plant Mewn Angen drwy gynnal cystadleuaeth coginio, gwerthu cacennau, Plant i wisgo dillad eu hunain a chael bingo hwyliog.
Diolch i'r Cyngor Ysgol am drefnu gyda chymorth Miss Danielle Owen a Ms Llinos Thomas.
18.11.24 - Llwyddiant yng Ngala Nofio John Sharp
Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd yng Ngala Nofio John Sharp penwythnos diwethaf. Da iawn chi.
15.11.24 - Rhodri Trefor yn ymweld a Blwyddyn 6
Blwyddyn 6 yn cael gweithdy drama efo Rhodri Trefor fel rhan o gynllun Siarter iaith y Dalgylch
15.11.24 - Plant yn codi ymwybyddiaeth o Glefyd Siwgr
Cafodd y plant gyfle i wisgo dillad glas heddiw i godi ymwybyddiaeth o Glefyd Siwgr.
14.11.24 - Plant yn addurno Coeden Nadolig
Diolch i'r plant a fu'n brysur yn addurno ein coeden Nadolig yn barod ar gyfer y Ffair
08.11.24 - Plant Mewn Angen
Lleoliad: Yr Ysgol
Cysdadleuaeth Gwneud Llun ar Gyfer Y Babnod
Bingo i'r Adran Iau
Talwch £1 i wisgo dillad eich hun. Cewch gwisgo fel athrawes/athro neu gwallt gwirion.
Cystadleuaeth pobi adref. Bydd y cyngor ysgol yn ei feirniadu a gwerthu am £1. Dychwelyd i'r ysgol erbyn 15fed o Dachwedd. Gwobr i'r enillydd!
08.11.24 - Blwyddyn 6 yn gwneud Arbrawf Gwyddoniaeth Erydiad
Bu plant Blwyddyn 6 yn brysur yn cynnal ymholiad gwyddonol i ddarganfod pwysigrwydd swyddogaeth gwreiddiau planhigion i rwystro dirlithriadau. Gwers amserol wrth ddysgu am y dinistr enfawr a ddigwyddodd yn Sbaen yn dilyn llifogydd difrifol.
08.11.24 - Sian Beca a Emyr Gibson yn ymweld a Blwyddyn 5 a 6
Diolch i Sian Beca ac Emyr Gibson a ddaeth i'r ysgol i ysbrydoli Blwyddyn 5 a 6 i ddarllen llyfrau difyr.
05.11.24 - Rheolau Tan Gwyllt!
![]() Cylchlythyr Hydref Cylchlythyr Hydref - cliciwch yma |
Ymweliad Blwyddyn 6 ag ysgol Syr Hugh Owen - mwynhau cyd chwarae pêl-droed gyda disgyblion Blwyddyn 6 y dalgylch
Llongyfarchiadau i dim pêl-droed merched ysgol y Gelli am gymryd rhan yng Nghystadleuaeth pêl-droed yr Urdd ar gae 3D Treborth
Llongyfarchiadau i'r plant a fu'n llwyddiannus i gwblhau her genedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf 'Crefftwyr Campus' drwy ymweld a'r llyfrgell o leiaf 3 gwaith yn ystod gwyliau'r Haf.
Lluniau Blwyddyn 1 yn mwynhau cael cydweithio efo'r artist Catrin Williams
Lluniau Blwyddyn 2 yn mwynhau cael cydweithio efo'r artist Catrin Williams
Gweithdy Celf Blwyddyn 6 efo'r artist Catrin Williams
Cyngor Eco yn rhoi bylbiau LED mewn bagiau ar gyfer staff eco - gyfeillgar
Ymweliad CerddAmdani
Pawb wedi mwynhau gweithgareddau rhythm efo Gethin Tomos.
Cadw Cymru'n Daclus
Cafwyd gyflwyniad diddorol gan Esyllt Williams, Swyddog Addysg Cadw Cymru'n Daclus ac yna casglu ysbwriel sydd yn llygru o amgylch yr ysgol
Medi 30 - Cafodd y plant yr ysgol i gyd wisgo dillad coch er mwyn codi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod y Galon
Podlediad Glanllyn gan dosbarth Blwyddyn 6 - Gwrando
27/09/24 - Tim Pel Droed Yr Ysol yn Nhwrnament Peldroed yr Urdd Da iawn hogiau am gymryd rhan yn Nhwrnament Peldroed yr Urdd ar gae 3G Treborth. |
![]() Cylchlythyr Gorffennaf Cylchlythyr Haf - cliciwch yma |
![]() Cylchlythyr Mai Cylchlythyr Haf - cliciwch yma |
![]() Cylchlythyr Mawrth Cylchlythyr Gwanwyn - cliciwch yma |
Datganiad Preifatrwydd
© Hawlfraint 2025 - Ysgol y Gelli - Gwefan gan Delwedd